About us – Amdanon ni
Alanna ydw i a fi yw sylfaenydd Pennar Bapur. Ar ôl symud i Gaerdydd yn ystod y pandemig, dechreuais ddysgu Cymraeg ar-lein a chwrdd â llawer o bobl wych drwy hynny. Dwi'n ddyslecsig a do'n i byth yn meddwl y byddwn i'n gallu dysgu iaith arall ond trwy drochi, amynedd fy nheulu Cymraeg a llawer o ymarfer dw i bellach yn hyderus ac yn gyfforddus yn y Gymraeg.
Dechreuais feddwl am y syniad o Pennar Bapur pan o'n i'n chwilio am ddyddiadur Cymraeg hygyrch i'w ddefnyddio ac do'n i ddim yn gallu dod o hyd i rywbeth oedd yn addas. Felly es i ati i greu y Dyddiadur i Ddysgwyr cyntaf a cheisio creu dyddiadur baswn i wedi bod eisiau yn gynharach yn fy nhaith ddysgu. Ar ôl llwyddiant fy nyddiadur cyntaf, dwi wedi dechrau creu nwyddau newydd i helpu mwy o bobl mewn gwahanol ffyrdd.
Cadwch lygad ar ein tudalennau Instagram a Facebook i gael yr holl wybodaeth am gynhyrchion newydd a ble i ddod o hyd iddyn nhw mewn siopau yn eich ardal chi.