Croeso!

Croeso i Pennar Bapur. Ry'n ni'n gwmni sy'n gwerthu adnoddau dysgu Cymraeg sy'n gallu cael eu defnyddio bob dydd yn ogystal â bod yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol.   

Newydd ar gyfer 2025

Mae ein Dyddiadur i Ddysgwyr 2025 allan nawr. Ar ôl llwyddiant dyddiadur gwreiddiol y llynedd rydyn ni wedi gwneud un newydd sbon ar gyfer 2025!

Bydd y dyddiadur hwn yn eich helpu chi i ddysgu geiriau sy'n gysylltiedig â phob mis ac adeiladu ar eirfa'r llynedd. O'r tywydd i fwyd tymhorol, byddwch chi'n dysgu geiriau ac ymadroddion newydd i'w defnyddio mewn unrhyw sgwrs.

Mae ein Calendr i Ddysgwyr newydd sbon newydd ddod allan hefyd. Wedi'i wneud i fynd law yn llaw gyda'r Dyddiadur i Ddysgwyr. Bydd pwnc newydd bob mis yn rhoi hwb enfawr i'ch geirfa eleni. 

O flodau gwyllt i fynd dramor byddwch chi'n dysgu am y tymhorau a'r byd o'ch cwmpas yn y calendr gyda darluniadau hardd ar gyfer eich wal.